Owain Glyndŵr - Ein Harwr Ni

Ar ôl blynyddoedd o fyw dan ormes Arglwyddi’r Mers a brenhiniaeth Lloegr, dyma un Cymro dewr yn penderfynu taw digon oedd digon.

Owain Glyndŵr

Breuddwydiodd am gael annibynniaeth i Gymru, ac yn 1400 cyhoeddodd ei hun yn Dywysog Cymru. Am ddeuddeng mlynedd, arweiniodd wrthryfel yn erbyn awdurdod Lloegr yng Nghymru, ac er iddo lwyddo ar y cychwyn, yn y diwedd bu'n rhaid iddo enclio.

Cyfle i gyfarfod ag Owain Glyndŵr mewn sioe rhyngweithiol.

Beth achosodd y gwrthryfel ? Beth ddigwyddodd yn ystod y deuddeng mlynedd o frwydro, a pham inni yn dal i gofio a chyfeirio at Owain Glyndŵr fel un o’r arwyr mwyaf erioed ?

Mae pecyn o adnoddau dysgu, sydd yn llawn syniadau am weithgarwch pellach i gyd fynd â’r perfformiad ar gael - ymwelwch â'n siop i ddarganfod mwy.

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Tîm Creadigol

Actor

Gwion Aled

Cyfarwyddwr

Janet Aethwy

Awdur

Eleri Twynog

Oriel

Archebwch Owain Glyndŵr - Ein Harwr Ni

Pris

Un sesiwn - £185 + TAW
Dau sesiwn - £295 + TAW
Tair sesiwn - £350 + TAW
Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd.
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.
Cymraeg