Yn y sioe yma bydd y plant yn cyfarfod â Hari Liwt ei Hun - cerddor yn Llys Llywelyn Fawr. Bydd Hari, trwy gyfrwng drama a cherddoriaeth, yn cyflwyno stori Llywelyn Fawr, un o'r tywysogion mwyaf dylanwadol a llwyddiannus welodd Cymru erioed.

Dyma gyfle i ddysgu am berthynas cythryblus Llywelyn Fawr a'r Brenin John; y Magna Carta a darganfod sut aeth Llywelyn Fawr ati i frwydro yn erbyn ei frodyr er mwyn uno Cymru – i gyd efo digonedd o gyfle i’r plant gymryd rhan!
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.
Tîm Creadigol
Actor
Neil Williams
Cyfarwyddwr
Janet Aethwy
Awdur
Myrddin ap Dafydd