Rhyddhau adnoddau hanes Cymru ar-lein ac am ddim yn ystod Covid-19

Yn ystod cyfnod Covid-19, mae Mewn Cymeriad yn rhoi cyfres o ganeuon o’u sioeau mwyaf poblogaidd ar sianel YouTube. Byddant ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion a rhieni i’w rhannu a’u mwynhau gyda’r plant. Mae saith o ganeuon gwahanol ar gael, oll am wahanol gymeriadau neu stori o hanes Cymru – Yr Arglwydd Rhys; Barti Ddu; Llywelyn ein Llyw Olaf; Owain Glyndŵr; Mordaith y Mimosa; Dic Penderyn, a’r Chwyldro Diwydiannol.

Gallwch weld rhai o'r ffilmiau sydd ar gael drwy glicio ar ein tudalen Adnoddauneu drwy ymweld â'n sianel YouTube yma.

Dyma gyfle gwych, trwy gân, i ddysgu am rhai o gymeriadau hanesyddol difyr a diddorol Cymru. Mae’r caneuon i gyd yn rhan o sioeau sy’n teithio ysgolion Cymru trwy gydol y flwyddyn.

Mae’r cwmni hefyd yn rhyddhau fersiynnau byr o ambell un o’u sioeau , gan gynnwys sioe Mari Jones - Yn Ôl Fy Nhroed Hedd Wyn - Pam Ein Bod yn Cofio? a Glenys y Siop - Byw Drwy'r Blitz . Mae pecynnau gwaith i gyd -fynd â’r ffilmiau wedi’u cynnwys ar y disgrifiadau ar wefan YouTube, ac yn addas i blant eu defnyddio yn yr ysgol neu gartef.

Medd Eleri Twynog, Cyfarwyddwr Mewn Cymeriad:

“Rydym yn awyddus i geisio helpu ysgolion a rhieni cymaint ag y gallwn i barhau i addysgu plant am hanes Cymru yn ystod y cyfnod cythryblus yma. Mae gan y cwmni tua 30 o wahanol sioeau sydd fel arfer yn teithio ysgolion led led Cymru. Edrychwn ymlaen at ail afael ar y teithio, ond yn y cyfamser, dyma flas i aros pryd”.

Cymraeg