Gweithdy David Davies Llandinam

Gweithdy rhyngweithiol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu disgyblion mentrus a chreadigol. Ymunwch â’r actor Ioan Hefin i ddysgu a deall mwy am y teicŵn o Gymro - David Davies Llandinam. Bydd Ioan, yng nghwmni’r disgyblion, yn ceisio dod o hyd i wir ystyr y gair ‘entrepreneur’. Beth oedd e’n ei olygu yn Oes Fictoria yng nghyfnod cyffrous y Chwyldro Diwydiannol? A beth mae’n ei olygu inni erbyn heddiw? Pa sgiliau sydd eu hangen? Ac ydy bod yn ‘entrepreneur yn gyfystyr â bod yn gyfoethog? 

Caiff y gweithdy ei gynnal gan un o ffrindiau David Davies, yr actor Ioan Hefin.

Addas ar gyfer disgyblion CA2

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Pecyn Ffilm Fer a Gweithdy

Gan nad yw hi’n bosib i ni ymuno efo chi yn yr ysgol, dyma gyfle i ddod a hanes yn fyw yn eich dosbarth mewn ffordd rithiol! Mwynhewch wylio ffilm fer, oddeutu chwarter awr o hyd, am gymeriad o hanes Cymru cyn cymryd rhan mewn gweithdy rhithiol, 45 munud o hyd a fydd yn archwilio byd y cymeriad efo’r plant. 

Mae’r pecyn ffilm fer a gweithdy ar gael am £85 + TAW ar gyfer un dosbarth (hyd at 35 o blant).

Gallwn gynnal gweithdai rhithiol drwy Teams, Zoom neu Google Classroom. Bydd Mewn Cymeriad yn danfon adnoddau perthnasol i’r ysgol o flaen llaw.

Gyda diolch i'r Gronfa Adferiad Ddiwylliannol am gefnogi'r gwaith yma.

Cymraeg