Gweithdy yng nghwmni’r cymeriad Arglwyddes Llanofer, eicon ffasiwn gwreiddiol Cymru, yn seiliedig ar hanes y wisg Gymreig a Chymreictod. Bydd cyfle i ddisgyblion ennill hyder ieithyddol drwy’r ddrama a chân.
Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal gan yr Arglwyddes Llanofer ei hun!
Addas ar gyfer disgyblion blynyddoedd 1-3
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.
Pecyn Ffilm Fer a Gweithdy
Gan nad yw hi’n bosib i ni ymuno efo chi yn yr ysgol, dyma gyfle i ddod a hanes yn fyw yn eich dosbarth mewn ffordd rithiol! Mwynhewch wylio ffilm fer, oddeutu chwarter awr o hyd, am gymeriad o hanes Cymru cyn cymryd rhan mewn gweithdy rhithiol, 45 munud o hyd a fydd yn archwilio byd y cymeriad efo’r plant.
Mae’r pecyn ffilm fer a gweithdy ar gael am £85 + TAW ar gyfer un dosbarth (hyd at 35 o blant).
Gallwn gynnal gweithdai rhithiol drwy Teams, Zoom neu Google Classroom. Bydd Mewn Cymeriad yn danfon adnoddau perthnasol i’r ysgol o flaen llaw.
Gyda diolch i'r Gronfa Adferiad Ddiwylliannol am gefnogi'r gwaith yma.