Gweithdy Owain Glyndŵr

Gweithdy drama llawn hwyl fydd yn atgyfnerthu gwybodaeth y plant am hanes Owain Glyndŵr. Trwy gyfres o gemau rhyngweithiol, gyda'r pwyslais, ar ddatblygu iaith, llafaredd a chydweithio, dyma ffordd hwyliog i fynd ati i godi hyder y plant wrth ddysgu am un o arwyr ein cenedl.

Yr actor Gwion Aled fydd yn arwain y gweithdy - mae o'n ffrind da i Owain Glyndŵr.

Addas ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4 - 7

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Pecyn Ffilm Fer a Gweithdy

Gan nad yw hi’n bosib i ni ymuno efo chi yn yr ysgol, dyma gyfle i ddod a hanes yn fyw yn eich dosbarth mewn ffordd rithiol! Mwynhewch wylio ffilm fer, oddeutu chwarter awr o hyd, am gymeriad o hanes Cymru cyn cymryd rhan mewn gweithdy rhithiol, 45 munud o hyd a fydd yn archwilio byd y cymeriad efo’r plant. 

Mae’r pecyn ffilm fer a gweithdy ar gael am £85 + TAW ar gyfer un dosbarth (hyd at 35 o blant).

Gallwn gynnal gweithdai rhithiol drwy Teams, Zoom neu Google Classroom. Bydd Mewn Cymeriad yn danfon adnoddau perthnasol i’r ysgol o flaen llaw.

Gyda diolch i'r Gronfa Adferiad Ddiwylliannol am gefnogi'r gwaith yma.

Cymraeg