Gweithdy llawn hwyl sydd yn arwain disgyblion i ddatrys cyfres o weithgareddau mathemategol - rhai hawdd a rhai heriol! Bydd y gweithgareddau’n meithrin sgiliau rhesymu a datrys problemau. Trwy gyd-weithio mewn grwpiau bydd y disgyblion nid yn unig yn ymarfer eu sgiliau mathemategol ond hefyd yn datblygu dyfalbarhad, meddwl beirniadol, creadigrwydd, sgiliau iaith a'u dychymyg.
Bydd y gweithdy'n cael ei gynnal gan Aled Richards, arbennigwr mathemateg sy'n ffrind da i Robert Recorde.
Addas ar gyfer disgyblion CA2. Bydd y gweithgareddau yn cael eu teilwra i ateb gofynion oed a gallu'r disgyblion.
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.
Pecyn Ffilm Fer a Gweithdy
Gan nad yw hi’n bosib i ni ymuno efo chi yn yr ysgol, dyma gyfle i ddod a hanes yn fyw yn eich dosbarth mewn ffordd rithiol! Mwynhewch wylio ffilm fer, oddeutu chwarter awr o hyd, am gymeriad o hanes Cymru cyn cymryd rhan mewn gweithdy rhithiol, 45 munud o hyd a fydd yn archwilio byd y cymeriad efo’r plant.
Mae’r pecyn ffilm fer a gweithdy ar gael am £85 + TAW ar gyfer un dosbarth (hyd at 35 o blant).
Gallwn gynnal gweithdai rhithiol drwy Teams, Zoom neu Google Classroom. Bydd Mewn Cymeriad yn danfon adnoddau perthnasol i’r ysgol o flaen llaw.
Gyda diolch i'r Gronfa Adferiad Ddiwylliannol am gefnogi'r gwaith yma.