Gweithdy'r Mabinogion

Cymeriad go ddireidus oedd y bardd, Dafydd ap Gwilym. Bydd y gweithdy drama yma yng nghwmni Daf ap ei hun yn rhoi cyfle i ddisgyblion brofi eu sgiliau perfformio a chyfathrebu wrth iddynt gydweithio i ddod a straeon y Mabinogi’n fyw. Dyma gyfle i’r disgyblion archwilio straeon hynaf Cymru ac i ddarganfod man cychwyn llenyddiaeth ein gwlad.

Bydd y gweithdy'n cael ei gynnal gan Daf ap ei hun!

Addas ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4 - 7

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Pecyn Ffilm Fer a Gweithdy

Gan nad yw hi’n bosib i ni ymuno efo chi yn yr ysgol, dyma gyfle i ddod a hanes yn fyw yn eich dosbarth mewn ffordd rithiol! Mwynhewch wylio ffilm fer, oddeutu chwarter awr o hyd, am gymeriad o hanes Cymru cyn cymryd rhan mewn gweithdy rhithiol, 45 munud o hyd a fydd yn archwilio byd y cymeriad efo’r plant. 

Mae’r pecyn ffilm fer a gweithdy ar gael am £85 + TAW y dosbarth (hyd at 35 o blant)

Gallwn gynnal gweithdai rhithiol drwy Teams, Zoom neu Google Classroom. Bydd Mewn Cymeriad yn danfon adnoddau perthnasol i’r ysgol o flaen llaw.

Gyda diolch i'r Gronfa Adferiad Ddiwylliannol am gefnogi'r gwaith yma.

Cymraeg