Betty Campbell - Darganfod Trebiwt


Pwy oedd Betty Campbell? A beth sydd mor arbennig am ei chartref, Bae Teigr? Dewch i ddysgu am y ddynes Gymraeg hanesyddol gyntaf a chafodd ei dathlu drwy gerflun yng Nghymru.

O adeiladu’r dociau yn 1860au, dau ryfel byd, terfysgoedd 1919 a sawl cyfnod o adeiladu, dymchwel ac adeiladu eto, ymunwch â Betty wrth iddi rannu gwers hanes am ardal fach o Gaerdydd sydd wedi chwarae rôl mawr yn hanes Cymru dros y ddau gan mlynedd ddiwethaf.

Pobol; Cymuned; Calon. Croeso i Fae Teigr!

Cynhyrchiad Mewn Cymeriad, gyda chefnogaeth gan Theatr Genedlaethol Cymru a Butetown Arts & Culture Association

Mae'r sioe yma yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Tîm Creadigol

Actor

Kimberley Abodunrin

Cyfarwyddwr

Carli De’La Hughes

Awdur

Nia Morais

Archebwch Betty Campbell - Darganfod Trebiwt

Pris

Un sesiwn - £185 + TAW
Dau sesiwn - £295 + TAW
Tair sesiwn - £350 + TAW
Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd.
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.
Cymraeg