Harri Tudur. Arwr Cymru neu fradwr?

Gyda help lot fawr o filwyr Cymreig ym mrwydr Maes Bosworth, fe wnaeth Harri drechu Richard lll a dod yn Frenin Lloegr.

Henry Tudor. Welsh hero or traitor?

Roedd y boneddigion o Gymru yn ei hoffi a’i gefnogi am iddo edrych ar eu hôl – a’u gwneud nhw’n llawer mwy cyfoethog. Roedd y beirdd yn ei alw yn ‘Y Mab Darogan’ gan eu bod yn credu y byddai cael Cymro yn frenin Lloegr yn siwr o fod yn beth da. O ran y gweddill, y Cymry cyffredin, roedd bywyd yn anodd, ac fe wnaeth y brenin o Gymro fawr ddim i’w helpu.

Cyfle i gyfarfod â Harri Tudur (VII) ac i ddysgu mwy am y Cymro ddaeth yn frenin Lloegr gan gychwyn cyfnod pwysig iawn mewn hanes – Y Tuduriaid.

Mae pecyn o adnoddau dysgu, sydd yn llawn syniadau am weithgarwch pellach i gyd fynd â’r perfformiad ar gael - ymwelwch â'n siop i ddarganfod mwy.

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Tîm Creadigol

Actor

Dyfed Cynan

Cyfarwyddwr

janet Arthwy

Awdur

Aled O. Richards

Oriel

Archebwch Harri Tudur. Arwr Cymru neu fradwr?

Pris

Un sesiwn - £185 + TAW
Dau sesiwn - £295 + TAW
Tair sesiwn - £350 + TAW
Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd.
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.
Cymraeg