Dros gant a hanner o flynyddoedd yn ôl fe hwyliodd criw dewr o Gymry, ar fwrdd y Mimosa, er mwyn darganfod bywyd gwell ochr draw'r byd.
Yn y sioe hwyliog yma cewch gyfle i ymuno gyda un o'r teithwyr hynny, William Jones, ar ei siwrnai arwrol o’r Bala i Batagonia.
Caiff y plant eu cludo yn ôl mewn amser i brofi caledwch bywyd yng Nghymru yn 1865; clywed am obaith mawr cynllun Michael D. Jones; profi’r hwyl a'r trasiedi ar fwrdd y Mimosa, yn ogystal â'r realiti oedd yn ei disgwyl y Cymry truenus ar lannau Patagonia.
Nid oes pecyn addysgiadol ar gael i gydfynd â'r sioe yma, ond mae llawer o adnoddau ar gael yn www.150patagonia.cymru/
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.
Tîm Creadigol
Actor
Carwyn Jones
Cyfarwyddwr
Janet Aethwy
Awdur
Aled Richards