Kate Roberts, 1947

Credaf mai fy mywyd i fy hun yw’r thema fwyaf y gwn amdani. Nid oes dim canolig yn digwydd yn fy mywyd i

Kate Roberts

Gwerinwraig, genedlaetholgar sydd yma ac er bod Cymru wedi mynnu rhoi statws barchus iddi, rebal styfnig oedd Kate yn y bôn – dynes o flaen ei hamser yn byw a gweithio mewn byd o ddynion ac yn un a roddodd lais i’r bobl gyffredin trwy ei gwaith. Roedd hi’n gweld anhegwch ac anghydbwysedd yn y byd ac mae wedi cael ei berniadu’n aml am fod yn besimistaidd ond gweld y gwir oedd hi – y gwir sy’n ddarn o hanes ein gwlad - a hynny drwy ei bywyd hi ei hun. Carys Gwilyn sy’n portreadu Kate Roberts mewn sioe un dynes sy'n addas ar gyfer CA3 neu nosweithiau cymunedol.

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Tîm Creadigol

Actor

Carys Gwilym

Cyfarwyddwr

Janet Aethwy

Awdur

Janet Aethwy

Oriel

Archebwch Kate Roberts, 1947

Pris

Un sesiwn - £185 + TAW
Dau sesiwn - £295 + TAW
Tair sesiwn - £350 + TAW
Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd.
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.
Cymraeg