Y Senedd. Beth yw e? Ble mae e ? A pham ei fod yn un o adeiladau pwyiscaf Cymru?
Dan arweiniad Meg - Prif Swyddog Diogelwch yn y Senedd, bydd y plant yn mynd ar daith ddychmygol i Fae Caerdydd. Yno, byddant yn dod i ddeall rhywfaint am wleidyddiaeth ein cenedl gan ddod yn gyfarwydd a llu o dermau sy’n bwysig i'n bywydau bob dydd - Datganoli; Cynulliad; Pleidlais; Etholiad; Maniffesto, a Mesur. Byddwn yn ymchwilio i'r hyn sy'n bwysig ym mywydau'r plant. A sgwn i pwy fydd yn ennill y ffug etholiad ?
Sioe hwyliog, addas ar gyfer blynyddoedd 5,6,7 ag 8 sy’n rhoi’r cyfle i'r plant ddarganfod a dysgu mwy am bwysigrwydd gwleidyddiaeth, a'r system sy'n gweithio tuag at sicrhau llais i bob un ohonom ni.
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.
Tîm Creadigol
Actor
Elin Llwyd
Cyfarwyddwr
Ffion Dafis
Awdur
Anni Llŷn