Amdanom ni

Mae Mewn Cymeriad yn gwmni theatr sy’n llwyfannu sioeau am gymeriadau a straeon o hanes Cymru

Pan gychwynnodd y cwmni nôl yn 2014, y bwriad oedd darparu sioeau rhyngweithiol, un dyn/un ferch, i ysgolion cynradd trwy Gymru gyfan, gan gynnig awr addysgiadol ac adloniadol i blant. Erbyn hyn, mae gan y cwmni ystod eang o gyflwyniadau dramatig ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, yn blant ac oedolion, oll yn canolbwyntio ar gymeriad neu stori o hanes Cymru – o gyfnod y Celtiaid i gofnodi 20 mlynedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Man cychwyn yw’r sioeau ar gyfer astudiaeth bellach, ac i gydfynd â phob cymeriad mae pecyn addysgol/gweithgareddau wedi’i baratoi yn ofalus fel ei fod yn berthnasol i ofynion llythrennedd a rhifedd y cwricwlwm Cymreig, gan ddarparu adnoddau newydd i athrawon i addysgu ac i ysbrydoli plant i ddysgu mwy am hanes Cymru.

Pwy di Pwy?

Eleri Twynog – Cyfarwyddwr Cwmni

Sefydlwyd Mewn Cymeriad gan Eleri Twynog, cyn Bennaeth Marchnata a Digwyddiadau S4C, a wnaeth gychwyn yr arfer o gyflwyno sioeau byw mewn digwyddiadau Cenedlaethol i hyrwyddo brand a rhaglenni plant y sianel. Ar ôl gadael S4C i sefydlu Mewn Cymeriad, mae Eleri bellach yn cydweithio’n agos â 'sgrifennwyr, cyfarwyddwyr, cynllunwyr ac actorion i wireddu gweledigaeth y cwmni i ddifyrru ac addysgu plant, a chynulleidfaoedd ehangach, trwy ddod â hanes Cymru yn fyw.

Ffion Glyn - Rheolwr Cyfranogi a Datblygu

Ymunodd Ffion â chwmni Mewn Cymeriad am y tro cyntaf fel actor nôl yn 2014, gan berfformio sioeau Buddug. Brenhines y Brwydro a Mari Jones – Yn ôl fy Nhroed. Ar ôl camu i ffwrdd oddi ar y llwyfan, fe dreuliodd Ffion dros dair blynedd yn gweithio i elusen gelfyddydol Shakespeare Schools Foundation, gan gydlynu prosiect drama ieuenctid fwyaf y byd, Gŵyl Ysgolion Shakespeare, yng Nghymru. Gyda’i chefndir o weithio fel actor mewn cynyrchiadau theatr deithiol a theatr awyr agored; hwyluso gweithdai; a chynhyrchu, mae Ffion yn falch iawn o allu dychwelyd i Mewn Cymeriad, lle caiff y cyfle i ddefnyddio’i holl brofiadau amrywiol (a pharhau i wisgo fyny bob hyn a hyn!)

Janet Aethwy – Cyfarwyddwr Theatr

Er bod Janet wedi actio’n gyson yn ystod ei gyrfa o 40 mlynedd, mae hi bellach yn cyfarwyddo fwyfwy erbyn hyn. Mae hi wedi bod ynghlwm wrth Mewn Cymeriad ers y dechrau ac mae hi wedi cyfarwyddo rhan fwyaf o sioeau’r cwmni. Hi hefyd ysgrifennodd Kate, sioe sy’n dweud hanes yr awdures Kate Roberts. Erbyn hyn mae Kate wedi cael ei haddasu ar gyfer y radio. Mae hi wedi cyfarwyddo Estron a Primera Cena i Theatr Genedlaethol Cymru ac ers ugain mlynedd mae hi wedi cynhyrchu a chyfarwyddo cyfresi animeiddiedig i P.O.P1 a Tinopolis. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys Dai Potsh, Digbi Draig a dwy gyfres o Bing. Mae hi’n dal i fwynhau ychydig o actio ac mae’n ymddangos yn achlysurol ar Pobol y Cwm fel DI Davies.

Actorion

Cymraeg