Pwy sydd am fynd i'r môr?

Breuddwyd Eliseus Evans (neu Seus i’w fêts) yw cael bod yn Gapten Llong. Mae’n Llongwr ar fwrdd yr Amlwch Rose, llong sy’n cario copr o Fynydd Parys i lawr i Borthladd Abertawe yn ystod cyfnod y Chwyldro Diwydiannol. Cyfnod cyffrous wnaeth arwain Cymru i’r byd modern.

Who wants to go to sea?

Mae gan Seus hanesion rif y gwlith am y diwydiant morwrol a bywyd ar donnau’r môr, sy’n allwedd i ddarganfod y byd. Bywyd caled a pheryglus ydyw, ond mae rhyw dynfa arbennig i’r môr i’r rheiny sydd â halen yn eu gwaed.
Ymunwch â Seus o borthladd Abertawe i Amlwch ar fordaith sy’n llawn antur a hanesion di-ri.

Mae'r sioe yma yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Sylfaen yn ogystal â Cyfnod Allweddol 2.

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Tîm Creadigol

Actor

Tomos Wyn

Cyfarwyddwr

Gethin Roberts

Awdur

Mared Llywelyn Williams

Oriel

Archebwch Pwy sydd am fynd i'r môr?

Pris

Un sesiwn - £185 + TAW
Dau sesiwn - £295 + TAW
Tair sesiwn - £350 + TAW
Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd.
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.
Cymraeg