Sioe sy'n plethu hanes, hwyl a hafaliadau!
Yn y sioe rhyngweithiol hon, sydd wedi’i chynllunio ar gyfer blynyddoedd 7 ag 8, bydd disgyblion yn dysgu am y mathemategydd disglair o Fôn, William Jones a gyflwynodd y symbol 'pai' i'r byd. Yn ogystal â dysgu am bwysigrwydd 'Pai' i'r byd modern byddant hefyd yn cynorthwyo William Jones i ddatrys problemau pob dydd.
Mae'r sioe wedi cael ei hysgrifennu i gyd-fynd â'r cwricwlwm fathemateg ac yn cynorthwyo plant i ddatblygu strategaethau i ddatblygu rhesymu a'u paratoi ar gyfer y Profion Rhifedd Cenedlaethol (Rhesymu).
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.
Tîm Creadigol
Actor
Gwion Aled
Cyfarwyddwr
Martin Thomas
Awdur
Aled Richards