Beth yw pris dŵr? Darganfyddwch drwy glywed hanes dirdynnol boddi Cwm Tryweryn.
Ysgol fach, llawn bwrlwm, gyda plant bendigedig, oedd Ysgol Celyn ym mhentre’ Capel Celyn. Martha Roberts oedd y Brifathrawes wnaeth gloi drws yr ysgol am y tro olaf ym mis Gorffennaf 1963.
Yng nghwmni Martha fe glywn ni'r stori am y daith o Gwm Celyn i Lerpwl; am y peiriannu mawr wnaeth chwalu waliau’r ysgol, ac am ymdrechion dewr y trigolion lleol. Ond er taw ofer fu’r ymdrech, daw gobaith ar ddiwedd y sioe wrth i Martha annog y plant i ddal yn dynn yn y stori, yn union fel wnaeth hi ddal ei gafael ar oriad Ysgol Celyn.
Mae'r sioe yma yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.
Tîm Creadigol
Actor
Megan Llŷn
Cyfarwyddwr
Janet Aethwy
Awdur
Mari Emlyn