Mae ein disgyblion yn frwdrydig iawn ynglyn a'r arwr Cymreig Owain Glyndwr, ac yn gwybod cryn dipyn am ei hanes. Fodd bynnag, roedd ei gael yma o'u blaenau,yn ddyn o gig a gwaed, yn dweud ei hanes yn ei eiriau ei hun yn anhygoel. Daeth Owain yn fyw o flaen eu llygaid, a chawsant fod yn rhan o'r gwrthryfel. Teimlant empathi tuag ato a'i achos ac heb os nac oni bai roedd yn arwr iddynt! Magwyd tan yn eu boliau am fod yn Gymry, ac yn sicr mae'n fwy o arwr fyth, wedi iddynt ddeall faint ei ymdrech a'i aberth. Wrth gwrs, ynglwm yn hanes y cymeriad, cyflwynwyd i'r disgyblion gryn dipyn o hanes y cyfnod hefyd, a gwych yw'r arfer o dynnu'r plant i mewn yn rhan o'r perfformiad drwy chwarae rol rhai o'r cymeriadau allweddol. Drwy hyn does dim amheuaeth y byddant yn cofio yr hyn a gyflwynwyd yn llawer gwell. Diolch felly , am baratoi'r adnodd gwerthfawr hwn i alluogi'r plant i ddysgu am hanes eu gwlad.Maent yn falch o alw eu hunain yn Gymry - fedrwn ni ddim gofyn mwy.