Mae'r mwyafrif o'n sioeau wedi'u hanelu at ysgolion cynradd. Tra bod bob sioe wedi'u creu ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, mae ambell i un hefyd yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Sylfaen. Cysylltwch efo ni os oes gennych gwestiwn am unrhyw sioe - rydym yn hapus i drafod os yw'n addas i'ch disgyblion.

Roald Dahl - Dychmygwch!

Mae’r sioe un dyn yma, a chafodd ei gomisiynu gan Gyngor Llyfrau Cymru fel rhan o ddathliadau Roald Dahl 100, yn ffordd hwyliog i annog plant i ddarllen.

Darllen mwy

Yr Esgob William Morgan

Pan fuodd o farw yn 1604, roedd Yr Esgob William Morgan yn ddyn tlawd. Er hyn, yn ystod ei oes, creodd un o drysorau mwya’ gwerthfawr y genedl - Y Beibl Cymraeg.

Darllen mwy

Buddug. Brenhines y Brwydro

Gwraig. Mam. Brenhines. Gwarchodwraig ei phobol Neu ... Dynes wallgof a rhyfelgar gyda blas am waed Rhufeinig.
Neu...
Dynes wallgof a rhyfelgar gyda blas am waed Rhufeinig.

Darllen mwy

Pwy sydd am fynd i'r môr?

Breuddwyd Eliseus Evans yw cael bod yn Gapten Llong. Mae’n Llongwr ar fwrdd yr Amlwch Rose, llong sy’n cario copr yn ystod cyfnod y Chwyldro Diwydiannol -cyfnod cyffrous a oedd yn arwain Cymru i’r byd modern.

Darllen mwy
Cymraeg