Gweithdy Hedd Wyn

Gweithdy bywiog ar-lein yng nghwmni’r Prifardd – Hedd Wyn. Mi fydd y gweithdy yn trin a thrafod Barddoniaeth, Rhyfel ac Eisteddfodau mewn ffordd hwylus, yn ogystal â rhoi cyfle i’r plant ddatblygu hyder a dyfeisgarwch drwy gyd-weithio a pherfformio.

Darllen mwy

Gweithdy Ar Fwrdd y Mimosa

Yn 1865 fe wnaeth criw o Gymry benderfyniad i deithio dros y môr i gychwyn bywyd newydd ym Mhatagonia. Bydd y gweithdy yma yn gofyn i’r disgyblion ymholi sut beth oedd gwneud y penderfyniad mawr yma, yn ogystal ag archwilio sut roedd teithio ar y môr yn gyfle am antur newydd.

Darllen mwy

Gweithdy Owain Glyndŵr

Gweithdy drama llawn hwyl fydd yn atgyfnerthu gwybodaeth y plant am hanes Owain Glyndŵr, gyda'r pwyslais, ar ddatblygu iaith, llafaredd a chydweithio.

Darllen mwy

Straeon Roald Dahl

Er bod Alf wrth ei fodd yn darllen unrhyw lyfr sydd ar gael, ei hoff awdur yw Roald Dahl. Drwy’r gweithdy llawn hwyl a sbri yma bydd Alf a’r disgyblion yn defnyddio eu pwerau creadigol i ddod â rhai o gymeriadau o lyfrau Roald Dahl yn fyw yn y dosbarth.

Darllen mwy

Gweithdy Glenys Myfanwy

Dyma gyfle i ddarganfod mwy am fywyd dydd i ddydd trigolion Abertawe yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd, yng nghwmni Glenys Myfanwy, perchennog Rhondda Stores.

Darllen mwy

Gweithdy David Davies Llandinam

Gweithdy rhyngweithiol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu disgyblion mentrus a chreadigol wrth ddysgu am y teicŵn o Gymro - David Davies Llandinam. Bydd cyfle i geisio dod o hyd i wir ystyr y gair ‘entrepreneur’. Beth oedd e’n ei olygu yn Oes Fictoria yng nghyfnod cyffrous y Chwyldro Diwydiannol? A beth mae’n ei olygu inni erbyn heddiw?

Darllen mwy

Gweithdy'r Mabinogion

Cymeriad go ddireidus oedd y bardd, Dafydd ap Gwilym. Bydd y gweithdy drama yma yng nghwmni Daf ap ei hun yn rhoi cyfle i ddisgyblion archwilio straeon hynaf Cymru ac i ddarganfod man cychwyn llenyddiaeth ein gwlad.

Darllen mwy

Gweithdy Taith yr Iaith

Gwyliwch y ffilm fer sy’n adrodd hanes yr iaith Gymraeg cyn cymryd rhan mewn cwis rhyngweithiol i ddarganfod hyd yn oed fwy am ein hiaith. Sesiwn sydd yn addas i siaradwyr rhugl ac i ddysgwyr oll.

Darllen mwy

Datrys Problemau Robert Recorde

Gweithdy sydd yn arwain disgyblion i ddatrys cyfres o weithgareddau mathemategol - rhai hawdd a rhai heriol! Bydd y gweithgareddau’n meithrin sgiliau rhesymu a datrys problemau mewn ffyrdd creadigol, llawn hwyl.

Darllen mwy

Gweithdy Buddug

Gweithdy drama sy’n archwilio stori Buddug a’i brwydr yn erbyn y Rhufeiniaid. Bydd cyfle i ddisgyblion ymgyfarwyddo efo hanes Buddug drwy’r celfyddydau mynegiannol ac i ddarganfod bod wastad dwy ochr i bob stori mewn hanes.

Darllen mwy

Gweithdy'r Arglwyddes Llanofer

Gweithdy yng nghwmni’r cymeriad Arglwyddes Llanofer, eicon ffasiwn gwreiddiol Cymru, yn seiliedig ar hanes y wisg Gymreig a Chymreictod. Bydd cyfle i ddisgyblion ennill hyder ieithyddol drwy’r ddrama a chân.

Darllen mwy

Gweithdy Harri Tudur

Mae'r gweithdy drama yma, sy'n seiliedig ar gyfnod y Tuduriaid, yn cyd-fynd a ffilm fer sy'n adrodd hanes brenin cyntaf y Tuduriaid, Harri VII. Bydd y disgyblion yn archwilio gwahanol ddyfeisiadau a darganfyddiadau yn ystod cyfnod y Tuduriaid, gan ddatblygu eu hyder a'u mynegiant creadigol.

Darllen mwy
Cymraeg