Gwyl Hanes Cymru i Blant

Mewn Cymeriad yw prif bartner Gwyl Hanes Cymru i Blant .

Mae'r Ŵyl yn gwmni di-elw, gyda’i fwriad i drefnu a llwyfannu digwyddiadau i blant yn ystod mis Medi yn flynyddol, a hynny mewn lleoliadau treftadaeth trwy Gymru gyfan. Bwriedir, ar y cyd â’i phartneriaid, estyn cyfleoedd unigryw i blant a’r cyhoedd ddysgu mwy am rai o gymeriadau difyr ein gorffennol; darganfod safleoedd o bwys hanesyddol, a dathlu hanes a threftadaeth gyfoethog Cymru.

Ers cynnal y digwyddiad cyntaf yng Nghastell Aberteifi ym mis Medi 2015, mae Gŵyl Hanes Cymru i Blant wedi llwyfannu dros 500 o sioeau mewn lleoliadau treftadaeth dros Gymru gyfan, gan ddiddanu ac addysgu tua 25,000 o blant.

Gallwch chi ddarganfod mwy am yr Ŵyl drwy ymweld â’i gwefan.

Cymraeg